Page 4 - MISE Project Report-Welsh
P. 4
Pobl prosiect MMAC
Pobl prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MMAC) Cwrdd â phobl prosiect MMAC
Partner Arweiniol: Sefydliad Technoleg Waterford Dr Catherine O’Reilly, Arweinydd Prosiect MMAC
Cafodd Catherine O’Reilly radd BA (Mod.) o Goleg y Drindod, Dulyn, lle bu hefyd yn astudio ar gyfer PhD mewn mwtantiaid ansefydlog mewn Salmonella typhimurium. Cafodd Catherine swyddi ôl-ddoethurol yn sefydliad Max Plank, Cologne, yr Almaen a Phrifysgol Durham, y Deyrnas Unedig, cyn cael ei phenodi’n ddarlithydd mewn geneteg foleciwlaidd ym Mhrifysgol Sunderland. Ymunodd Catherine â Sefydliad Technoleg Waterford yn 1995 lle parhaodd â’i hymchwil i fioleg foleciwlaidd
Dr Peter Turner, Arweinydd Prosiect MMAC
Cafodd Peter ei hyfforddi fel biocemegydd yng Nghaerfaddon yn wreiddiol, a threuliodd amser yn gweithio ym meysydd niwrofioleg ac ensymoleg yn Nulyn. Wedyn bu’n gweithio mewn diwydiant yn y Deyrnas Unedig am 12 blynedd, yn datblygu triniaethau ar gyfer gwastraff biolegol gwenwynig a phlastigau sy’n deillio o facteria. Llwyddodd Peter i ddianc o’r diwedd o’r labordy i faes ecoleg
Dr David O’Neill, Rheolwr Prosiect MMAC
Graddiodd David gyda BSc (Anrh) mewn Bioleg Gymhwysol gyda Rheolaeth Ansawdd o Sefydliad Technoleg Waterford. Cwblhaodd PhD yno hefyd, gan ymchwilio i’r systemau genetig y tu ôl i allu gwymon i gronni metelau. Dechreuodd David gyda phrosiect MMAC yn 2011 fel Gwyddonydd y Prosiect, gan weithio’n wreiddiol ar ddatblygu a chymhwyso profion DNA newydd, ac wedyn daeth
a microbaidd, ond datblygodd hefyd ddiddordeb newydd mewn ecoleg. I ddechrau, defnyddiodd Catherine ei sgiliau ym maes moleciwlau i ddatblygu technegau dadansoddi DNA newydd i fonitro poblogaethau beleod. Bellach mae ei hymchwil wedi ehangu’n sylweddol i gynnwys amrywiaeth fawr o rywogaethau mamaliaid yn y Grŵp Ymchwil Ecoleg Foleciwlaidd. Roedd y technegau DNA hyn yn rhan annatod o’r gwaith o sefydlu prosiect MMAC.
ar ôl dychwelyd i Iwerddon. Erbyn hyn mae Peter yn defnyddio ei brofiad helaeth ym maes gwyddoniaeth i gyfuno dulliau DNA yn y labordy ag ecoleg maes i dracio beleod gwyllt gan ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig.
yn Rheolwr y Prosiect. Ynghyd â’i ddiddordeb mewn dawnsio gwerin, mae ei ddiddordebau gwyddonol ym maes technegau bioleg foleciwlaidd, ac mae ganddo brofiad ymchwil o’u cymhwyso i astudio DNA mewn bacteria, algâu ac anifeiliaid.
4

