Page 35 - MISE Project Report-Welsh
P. 35
Cael DNA o’r sampl
Y cam cyntaf yn y labordy yw tynnu DNA o’r sampl, ac mae’r dull o wneud hynny’n amrywio rhywfaint yn dibynnu ar y math o sampl. Er enghraifft, os mai blew yw’r sampl, y peth cyntaf i’w wneud yw ei dorri i lawr er mwyn rhyddhau’r celloedd sy’n cynnwys y DNA. Gyda samplau baw, rydym yn defnyddio’r celloedd sy’n rhwbio i ffwrdd oddi ar y coluddyn wrth i’r ysgarthion fynd drwy berfedd yr anifail. Mae’r celloedd hyn yn gorchuddio wyneb allanol y baw. Dilynir proses fer i ryddhau’r DNA o’r celloedd a dyma a geir yn y pen draw. (Os hoffech gael rhagor o fanylion am y technegau DNA dilynwch y ddolen hon i’n gwefan http://www. miseproject.ie/publications/reports-ireland/).
Baw dyfri © Kate Williamson
Baw bele’r coed © Vincent Wildlife Trust
Rhoddir cod adnabod DNA i bob sampl a broseswn, a thrwy hynny gallwn chwilio’n gyflym drwy ein cronfa ddata fewnol, dod o hyd i’r sampl (mae gennym archif o flychau’n cynnwys bron i 7,000 o samplau) ac olrhain ei hynt yn y labordy.
Felly mae’r DNA gennym.... Beth nesaf?
Wedi i ni dynnu DNA o holl samplau arolwg penodol, byddwn yn cynnal profion arnynt i gael gwybod o ba anifail y daethant, ai gwryw ynteu benyw oedd yr anifail, ac weithiau gallwn bennu ôl bysedd DNA i adnabod unigolyn. Gyda’i gilydd gall y wybodaeth hon ddweud wrthym am yr anifeiliaid lleol mewn ardal arolygu benodol. Defnyddiwn brawf rhyw i ddangos swm ac ansawdd y DNA sydd ym mhob sampl, ac mae hynny’n arbed costau ac amser, oherwydd dim ond y samplau gorau a ddefnyddir i gael yr olion bysedd genetig.
Sampl o flew © Terry Whittaker
Samplau baw mamaliaid bach © Edel Sheerin
Caiff yr holl data hwn wedyn ei blygio i mewn i raglenni ystadegau lle y gallwn astudio iechyd genetig yr anifeiliaid ac amcangyfrif nifer yr anifeiliaid sydd mewn ardal, ac weithiau gallwn hyd yn oed weld pa anifeiliaid sy’n perthyn i’w gilydd! Defnyddir y wybodaeth hon i helpu i lunio strategaethau cadwraeth er mwyn gwneud gwaith rheoli yn y dyfodol.
Pan fydd yr holl ganlyniadau wedi eu llwytho i’r gronfa ddata ar-lein a rennir, gall Swyddogion Prosiect MmAC eu gweld a’u defnyddio mewn adroddiadau arolygu a chyhoeddiadau gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid, sydd ar gael ar-lein ar wefan MmAC. Rydym hefyd yn cyflwyno cofnodion i ganolfannau data sy’n cofnodi ac yn monitro amrywiaeth fiolegol yng Nghymru ac Iwerddon. Yn Iwerddon caiff y cofnodion hyn eu hanfon i’r Ganolfan Data Bioamrywiaeth Genedlaethol (NBDC) ac yng Nghymru mae Swyddogion Prosiect MmAC yn cyfrannu data i Cofnod (canolfan cofnodion lleol gogledd a gorllewin Cymru) a WWBIC (Canolfan Bioamrywiaeth a Gwybodaeth Gorllewin Cymru).
Swyddog Prosiect MmAC Aline Denton yn tynnu DNA o faw llygoden yr ŷd © Liz Halliwell
Hyfforddiant yn y labordy
Rydym wedi darparu hyfforddiant yn y labordy i wirfoddolwyr o Gymru ac Iwerddon, lle cânt gyfle i ddysgu’r gwahanol dechnegau DNA a’u defnyddio ar samplau o’n harolygon. Yn unol â’n dull cydweithredu trawsffiniol, rydym yn rhannu ein sgiliau a’n harbenigedd â’n cydweithwyr yng Nghymru sydd hefyd wedi ymweld â’r labordy i gael gwybod am y profion DNA a chynnal profion drostynt eu hunain.
35
Hyfforddiant yn y labordy

