Page 34 - MISE Project Report-Welsh
P. 34
Edel Sheerin
Cyflwyniad
A Day in the Lab - Behind the scenes!
Gwirfoddolwyr MmAC Jacob van der Ploeg a Daan Smit yn cofnodi canlyniadau o offeryn yn y labordy © Edel Sheerin
Diwrnod yn y labordy
– tu ôl i’r llenni!
Dyma chi wedi archwilio’r llwybrau coediog, wedi cerdded y mynyddoedd ac wedi chwilota drwy laswellt glannau’r afonydd, mewn tywydd enbyd weithiau, a hyn i gyd er mwyn casglu cymaint o faw anifeiliaid ag y gallech i brosiect MmAC. Y tro diwethaf i chi weld y samplau hynny roeddent mewn tiwbiau neu fagiau plastig bach, a chawsant eu hanfon i ffwrdd i’r labordy yn Sefydliad Technoleg Waterford. Ydych chi wedi meddwl beth yn union sy’n digwydd nesaf? Sut ydyn ni’n casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen o’r samplau baw neu flew a gasglwyd yn ein harolygon?
Drwy gydol y prosiect, mae ein gwirfoddolwyr ymroddedig yng Nghymru ac yn Iwerddon wedi casglu miloedd o samplau. O arolygon dyfrgwn a mamaliaid y goedwig i arolygon tiwbiau blew y wiwer goch a bele’r coed, ymhlith y samplau hefyd mae rhai anifeiliaid anffodus a laddwyd ar ein ffyrdd. Gweler yr enghreifftiau isod:
Ar ôl cynnal arolwg, caiff yr holl fanylion megis cyfesurynnau GPS, arsylwadau maes, profion sydd eu hangen a rhifau adnabod y
samplau eu cofnodi ar ein cronfeydd data ar-lein. Mae hyn yn golygu y gallwn ni yn y labordy edrych ar samplau a ddaw i mewn oddi wrth bartneriaid y prosiect, yng Nghymru ac yn Iwerddon, a pharatoi drwy sicrhau bod popeth sydd ei angen yn y labordy. Ar ôl i’r samplau gyrraedd y labordy cânt eu storio yn ein cwpwrdd rhewgell enfawr yn Sefydliad Technoleg Waterford, sy’n cael ei gadw ar dymheredd o minws 20 gradd Celsius.
34

