Page 33 - MISE Project Report-Welsh
P. 33
Addysg STEM
Mae CALMAST, y Ganolfan er Hybu Dysgu Mathemateg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sydd hefyd yn rhan o Sefydliad Technoleg Waterford, yn hybu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, sef y pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg). Mae CALMAST yn trefnu gwersylloedd haf gwyddoniaeth i blant ysgolion cynradd ac uwchradd bob blwyddyn. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda’r ddau grŵp oedran er mwyn cyflwyno’r disgyblion i arwyddion o bresenoldeb mamaliaid ym Mharc Natur Kilbarry yn Ninas Waterford. CALMAST hefyd sy’n cydlynu Gŵyl Bealtaine er Dathlu Ein Daear Fyw, sy’n cynnwys Diwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Fiolegol bob mis Mai. Dros y blynyddoedd, mae MmAC wedi cymryd rhan yn yr ŵyl hon drwy arwain teithiau natur cyhoeddus i’r teulu yn Cheekpoint, Coedwig Colligan a Choedwig Portlaw yn Swydd Waterford. Rydym wedi agor llygaid cannoedd o bobl i’r gwiwerod coch, belaod y coed, carlymod, ystlumod, moch daear a dyfrgwn sy’n byw ar stepen eu drws.
Gweithgareddau Addysgiadol MmAC yng Nghymru
Yng ngogledd Cymru, mae Ceri Morris, cyn Swyddog Prosiect MmAC gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddog Prosiect presennol, Becky Clew-Roberts, wedi bod yn arwain prosiectau gyda disgyblion yng Nghonwy yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt yr RSPB, yr ysgol leol, sef Ysgol Penmachno, Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru (NWAS) a dau glwb plant, Clwb Natur Blaenau a NEW Wildlife. Roedd y prosiectau dysgu cyfunol hyn yn cynnwys sgyrsiau am famaliaid
Cymru a chynnal arolygon mamaliaid gan ddefnyddio twneli olion traed, potiau abwyd a dadansoddi pelenni tylluanod er mwyn chwilio am weddillion mamaliaid bach a fu’n ysglyfaeth iddynt. Roedd yr adborth gan NWAS yn arbennig o galonogol, a dywedodd yr athro eu bod wrth eu bodd â diddordeb y disgyblion yn y prosiectau oherwydd gall rhai o’r disgyblion ymddangos braidd yn bell i ffwrdd yn y dosbarth, ac roedd y profiad dysgu hwn yn rhywbeth y gwnaeth y grŵp cyfan ei fwynhau.
Arweiniodd cyn Swyddog Prosiect MmAC, Jenny MacPherson gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, ddiwrnod eco yn ysgol Llanilar yng Ngheredigion, deiliaid gwobr platinwm Eco-ysgolion. Bu’r plant yn helpu i osod maglau i famaliaid bach ac yn gwneud gweithgareddau eraill cysylltiedig â mamaliaid. Trefnodd Jenny hefyd nifer o ymweliadau maes i Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman, sir Gaerfyrddin, er mwyn iddynt gael dysgu mwy am y wiwer goch yn un o’r planhigfeydd conifferaidd lle cânt eu gweld weithiau. Mae’r plant bellach wedi creu bwrdd arddangos y ‘wiwer goch’ yn yr ysgol. Rhoddodd Jenny hefyd sgyrsiau yn niwrnod gyrfaoedd yr ysgol. Bu Aline Denton (Swyddog Prosiect MmAC gydag
Fe gymerodd y plant ran mewn gweithgareddau megis trapio mamaliaid bach a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â mamaliaid.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent) yn gweithio gyda myfyrwyr Rheoli Cefn Gwlad o Goleg Gelli Aur yn sir Gaerfyrddin, a threfnodd sgwrs ar warchod y wiwer goch a phrosiect monitro tiwbiau blew yn un o blanhigfeydd coedwigaeth y wiwer goch.
Dysgu’r Addysgwyr
Yn ystod prosiect MmAC buom hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau “Dysgu’r Addysgwyr” yn Sefydliad Technoleg Waterford ac yn dysgu i athrawon ysgolion cynradd y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio ein gwaith drostynt eu hunain yn y dosbarth. Defnyddiwyd ein model dysgu cyfunol a ddatblygwyd ar gyfer ysgolion, a dysgwyd am ddeunydd amgylcheddol yn y dosbarth, yn y labordy ac yn y maes.
Mae un o becynnau gwaith estynedig y prosiect yn cynnwys paratoi ‘Pecyn Addysg’ a fydd yn cynnwys syniadau i athrawon am brosiectau. Caiff y pecyn ei dreialu mewn nifer o ysgolion ac yna bydd ar gael ar-lein er mwyn i athrawon gael gwybod sut yr aethom ati i ddefnyddio set benodol o sgiliau a’u haddasu i wahanol sefyllfaoedd
33
Addysgiadol

