Page 27 - MISE Project Report-Welsh
P. 27

Arloesi er mwyn dod o hyd i’r ‘nodwydd mewn tas wair’
Un o nodau’r prosiect MMAC oedd treialu technegau arloesol ar gyfer monitro ein mamaliaid brodorol, ac yn achos llygoden yr ŷd buom yn defnyddio potiau abwyd. Roedd y dull arolygu cychwynnol, a dreialwyd yn 2012yngnghynllunrhyddhaullygodyrŷd Sŵ Caer, yn golygu clymu parau o botiau plastig ar eu gwastad yn sownd wrth wiail bambŵ. Roedd y pot isaf ar lefel y ddaear, ac roedd yr ail bot ar uchder o 1m ar lefel coesynnau glaswellt hir, mieri a llwyni lle mae llygod yr ŷd yn treulio llawer o’u hamser. Yna, cafodd y gwiail bambŵ eu gosod mewn dau ddarn hirgul, cyfochrog 100m o dir. Gosodwyd 10 o wiail bambŵ ym mhob darn o dir a defnyddiwyd cyfanswm o 40 o botiau a oedd yn cynnwys miled fel abwyd. Ar ôl dau ddiwrnod, cafodd y baw a welwyd yn y potiau ei gasglu a chafodd profion DNA eu cynnal arno gan dîm MMAC yn Sefydliad Technoleg Waterford. Yn ddiddorol iawn, roedd yr holl
Swyddog Prosiect MMAC, Ceri Morris, yn defnyddio’r dull cychwynnol o ddefnyddio dau bot.
samplau a gafodd ganlyniadau cadarnhaol mewn profion DNA ar gyfer llygod yr ŷd yn dod o’r potiau abwyd a oedd ar y lefel uchaf. Dangosodd y cynllun peilot cynnar hwn fod y dechneg hon yn un effeithiol i ddarganfod a yw llygod yr ŷd yn bresennol ai peidio, ond bu i ni gofnodi amrywiaeth o rywogaethau eraill hefyd (nas targedwyd) megis y chwistlen leiaf a llygoden y coed a oedd yn defnyddio’r potiau abwyd. Er mwyn mireinio’r dull a lleihau nifer y rhywogaethau nas targedwyd a oedd yn mynd i mewn i’r potiau, aeth cyn-swyddog prosiect MMAC, Jenny MacPherson, gyda help Eloise Neighbour o’r Ymddiriedolaeth Natur ati i addasu’r potiau drwy osod gardiau atal o’u hamgylch, sef cewyll weiars (11mm o ran diamedr), a oedd yn caniatáu i rywogaethau llai o faint yn unig megis llygoden yr ŷd a’r chwistlen
leiaf fynd i mewn i’r potiau. Cafodd y rhain eu treialu’n llwyddiannus yng ngwarchodfa’r Ymddiriedolaeth Natur ym Mharc Slip.
O’r holl arolygon a gynhaliwyd o botiau
abwyd (43 i gyd), cafodd dau safle
ganlyniadau cadarnhaol mewn profion
DNA ar gyfer llygod yr ŷd. Un o’r safleoedd
hynny oedd gwarchodfa Cors Fferm
Y dyfodol
Er bod nifer fawr o arolygon o lygod yr ŷd
wedi’u cynnal yn ystod y prosiect MMAC
(gweler y map), mae ardaloedd helaeth o
Gymru yn parhau heb eu harolygu. Felly,
rydym yn gobeithio’n fawr y bydd grwpiau
mamaliaid lleol, Ymddiriedolaethau Natur
ac unigolion yn parhau i chwilio am lygod
O’Reilly o Sefydliad Technoleg Waterford fod
canlyniadau’r profion ar y baw a gasglwyd
yn gadarnhaol ar gyfer llygod yr ŷd. Mae
canlyniadau cadarnhaol fel hyn, waeth
pa mor aml y maent yn digwydd, o help gwirioneddol i annog gwirfoddolwyr i barhau â’u hymdrechion arolygu.
20
10
Nifer belaod y coed yng nghoedwig Portlaw, cyfrifiad 2008-14.
y Ffrwd Ymddiriedolaeth Natur De a yr ŷd yng Nghymru. Gallwn ddarparu
30
Gorllewin Cymru yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd y Swyddog Prosiect, Aline Denton o
Ymddiriedolaeth Natur Vincent, wrth ei bodd
pan gadarnhaodd Edel Sheerin a Catherine
Cyfanswm arweiniad,pecynnauarolygupPorteiasuwyalibowyd,
y cyflwyniadau PowerPoint a ddefnyddiwyd yn y gweithdai a’r cyhoeddiadau y sonnir amdanynt isod. Felly, cofiwch gysylltu os ydych yn bwriadu parhau i chwilio! Hoffem pe bai unrhyw gofnodion yn cael eu hanfon i’r pedair canolfan cofnodion lleol sydd yng Nghymru.
Allbynnau
Mae’r prosiect MMAC wedi cynhyrchu dau
Llun o nyth llygod yr ŷd yn y gaeaf, a ddaeth i’r amlwg ar ôl llosgi prysgoed yn rhan o waith rheoli cynefin ar Gors Erddreiniog. Llun gan Ceri Morris.
Nyth nad yw’n nyth magu, a welwyd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Geirch ar Benrhyn Llŷn ym mis Tachwedd 2014. Caiff y warchodfa hon ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Daethpwyd o hyd i nythod eraill yng Ngwarchodfa Natur Leol Cyttir, Llandegfan ar Ynys Môn ac ar safle arall yn Sir Gaerfyrddin. Llun gan Becky Clews-Roberts.
Mae’r ffaith i ni weld bod llygod yr ŷd yn bresennol mewn sawl safle, drwy gynnal arolygon chwilio am nythod (roedd nythod llygod yr ŷd ar saith o’r 15 o safleoedd) yn dangos bod defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn ogystal â thechnegau arolygu mwy traddodiadol yn gweithio. Mae’r map isod yn dangos manylion y technegau arolygu a ddefnyddiwyd ynghyd â’r canlyniadau.
gyhoeddiad: cerdyn post “Have you seen this mouse?” sy’n annog y darllenwyr i’n helpu i chwilio drwy ddangos lluniau clir o nythod llygod yr ŷd ac sy’n nodi pryd a ble i chwilio amdanynt, a llyfryn a ysgrifennwyd gan yr awdur a’r biolegydd o fri, Dr Amy-Jane Beer, “The Harvest Mouse – an introduction to our smallest rodent”. Dylai’r ddau gyhoeddiad hyn fod yn waddol gwerth chweil i’r prosiect, oherwydd bydd y wybodaeth sydd ynddynt yn parhau’n ddilys am flynyddoedd i ddod.
0
2008
2009
2010 2011 2012 2013 2014
Ni welwyd bod llygod yr ŷd yn bresennol Gwelwyd bod llygod yr ŷd yn bresennol
Cymru
Map o ganlyniadau arolygon o lygod yr ŷd, gan gynnwys arolygon chwilio am nythod ac arolygon o botiau abwyd. Cafodd y map hwn ei greu gyda help Andrew Harrington.
27
0 50 cilomedr
Llygoden yr ŷd
Nifer yr anifeiliaid


































































































   25   26   27   28   29