Page 26 - MISE Project Report-Welsh
P. 26
Becky Clews-Roberts (Cyfoeth Naturiol Cymru) ac Aline Denton (Ymddiriedolaeth Natur Vincent)
llygoden yr ŷd
Searching for Britain’s Smallest Rodent Harvest Mouse
Chwilio am gnofil lleiaf Prydain –
(Micromys minutus)
Gan mai 30 yn unig o gofnodion a gafwyd rhwng 2000 a 2013 (Adroddiad Cofnod, Mawrth 2013 Tapping, R; Harvest Mice in Wales – Where might they be?), roeddem yn gwybod y byddai’n anodd dod o hyd i lygod yr ŷd yng Nghymru – wedi’r cyfan, dyma gnofil lleiaf Prydain! Fodd bynnag, ymatebodd gwirfoddolwyr MMAC i’r her ac maent wedi ymdrechu ar y cyd i’n helpu i ddod o hyd iddynt. Yn wir, cafodd dros 800 o oriau gwirfoddolwyr eu treulio’n cynnal arolygon o botiau abwyd, yn chwilio am nythod a neu’n dadelfennu pelenni tylluanod/adar ysglyfaethus rhwng 2011 a 2014.
Llygoden yr ŷd yw’r aelod lleiaf o’n teulu o gnofilod – dim ond 5-7cm yw ei hyd ac mae’n pwyso tua’r un faint â darn 20c. Ei chlustiau bach, blewog sy’n ei gwneud yn wahanol i bob llygoden arall ym Mhrydain, a’i nodwedd fwyafamlwgyweichynffonsy’nmedrugafael mewn pethau ac sy’n cael ei defnyddio fel pumed goes i’w chynorthwyo i ddringo coesynnau glaswellt. Un o addasiadau unigryw eraill llygoden yr ŷd yw ei gallu i greu nythod o wead clòs yn ei hoff gynefin, sef cynefin glaswelltog, sy’n arwydd defnyddiol i arolygwyr mamaliaid.
Roedd Swyddogion Prosiect MMAC yn awyddus i hyfforddi gwirfoddolwyr er mwyn rhoi iddynt y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i gynnal arolygon sy’n defnyddio ystod o dechnegau. Cafodd chwech o weithdai hyfforddi ar gyfer arolygon eu trefnu rhwng 2012 a 2014, lle rhoddwyd cyflwyniad
am ecoleg llygoden yr ŷd a lle trafodwyd y ddamcaniaeth y tu ôl i’r dulliau arolygu. Yn dilyn y gweithdai hyn, cafwyd sesiynau hyfforddi ymarferol ar gyfer arolygon er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn gallu adnabod cynefin addas a’r arwyddion yn y maes – mae gwahaniaethu rhwng nyth llygod pengrwn a nyth llygod yr ŷd wedi bod yn ben tost i ni fwy nag unwaith! Roedd sawl un o’n gwirfoddolwyr yn teimlo’n ddigon hyderus yn dilyn yr hyfforddiant i gynnal eu harolygon eu hunain, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau.
Cafoddgweithdaidadansoddipelenniadar ysglyfaethus a thylluanod eu trefnu hefyd. Mae gwaith o’r fath yn gallu bod yn ddull defnyddiol, anuniongyrchol o ddarganfod a yw llygod yr ŷd yn bresennol mewn ardal. Pelenni tylluanod gwyn a chudyllod coch sydd hawsaf i’w casglu yn y maes,
o’u cymharu ag adar ysglyfaethus eraill, oherwydd bod ganddynt hoff leoliadau clwydo y mae gwylwyr adar lleol yn aml yn gyfarwydd â nhw. Pan fydd y pelenni wedi’u dadelfennu a phan fydd y gweddillion wedi’u didoli, mae’n bosibl adnabod penglogau llygod yr ŷd o nifer y gwreidd-dyllau sydd i’w gweld ar ôl tynnu’r cilddannedd. Yn achos llygod yr ŷd, mae pump o wreidd-dyllau’n dod i’r golwg, sy’n un o nodweddion unigryw llygod yr ŷd. Mae’r ffaith bod gweddillion llygod yr ŷd mewn pelen yn dangos bod llygod yr ŷd yn bresennol yn nhiriogaeth y rhywogaeth adar honno.
26
Penglog llygoden yr ŷd yn dangos y pump o wreidd-dyllau sy’n dod i’r amlwg ar ôl tynnu’r cilddannedd.

