Page 23 - MISE Project Report-Welsh
P. 23
Ble i ddechrau?
Ond y cam cyntaf oedd dod o hyd i’r mannau clwydo. Cawsom wybod yn ddigon buan am sawl man clwydo y gallem fynd iddynt i gasglu samplau o faw ystlumod, ond ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am fannau clwydo yn Waterford yn gyffredinol. Roedd angen ffordd systematig arnom o ddod o hyd i fannau clwydo, a datblygodd ein gwaith felly o’r nod gwreiddiol hwnnw.
Penderfynais ddechrau drwy edrych ar wahanol fathau o strwythurau. Mae ystlumod yn naturiol yn tueddu i glwydo mewn coed ac ogofâu, ond maent hefyd yn defnyddio strwythurau wedi’u gwneud gan ddyn fel tai, eglwysi, pontydd ac adeiladau eraill. Roedd arolygon wedi eu cynnal eisoes ar lawer o bontydd y sir er mwyn gweld a oedd ystlumod yno, felly doedd dim angen i mi ganolbwyntio ar y rheini; roedd tai ac adeiladau fferm yn anodd gan nad oeddwn am darfu ar breifatrwydd pobl ac mae’n debyg bod miloedd o bob math o adeilad yn y sir felly fyddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Byddai coed hefyd yn anodd, felly penderfynais ganolbwyntio ar eglwysi.
Ystlumod mewn Eglwysi
Roeddwn yn gwybod bod yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod wedi cynnal cyfres o arolygon “Ystlumod mewn Eglwysi” ar hyd a lled Prydain, ac roedd arolwg wedi’i gynnal ar ddetholiad o eglwysi mewn ardal yn Nulyn Dublin, Kildare a Meath. Dangosodd y ddwy astudiaeth honno fod ystlumod yn clwydo’n aml mewn eglwysi. Roedd bwlch yn hyn o beth, a chyda chymorth Conor Kelleher a Tina Aughney o Warchod Ystlumod Iwerddon sefydlwyd “Arolwg Ystlumod yn Eglwysi Waterford”.
Arolwg Ystlumod yn Eglwysi Waterford
Y cam cyntaf oedd anfon holiadur at glerigwyr ledled y sir ac yna fynd i weld yr eglwysi yn ystod yr haf lle bo modd. Dyma’r hwb yr oedd ei angen arnom i ddechrau dod o hyd i’r mannau clwydo, ac wedi i ni ddechrau arni aeth yr arolwg o nerth i nerth. Mae’r arolwg hwn yn yr haf wedi ei gynnal o 2012 hyd at 2014, a hyd yma, o’r 104 o eglwysi a nodwyd, rydym wedi cynnal arolygon ar 78 o eglwysi, llawer ohonynt gyda chymorth arolygwyr gwirfoddol.
Enghraifft o un o’r eglwysi lle gwnaed astudiaeth o ystlumod hirglust
O blith y 78 o eglwysi, nodwyd bod 45 yn cynnwys mannau clwydo ystlumod, a gwnaed hynny drwy gynnal arolygon wrth iddi nosi er mwyn cael gweld yr ystlumod yn dod allan o’r adeiladau neu (yn y rhan fwyaf o’r safleoedd) drwy ddod o hyd i arwyddion bod ystlumod wedi bod yno, gan gynnwys baw neu ystlumod marw. Taflodd yr arolwg hwn oleuni ar ddosbarthiad mannau clwydo’r ystlumod dros yr haf yn y sir, ond mae sawl rhywogaeth o ystlumod yn symud i glwydo mewn mannau eraill dros y gaeaf, gan fod angen amgylchedd gwahanol arnynt i’r hyn sydd ei angen yn yr haf. Hefyd, mae’n fwy anodd dod o hyd i fannau clwydo’r gaeaf ac maent felly wedi eu hastudio i raddau hyd yn oed yn llai yn Iwerddon, oherwydd maent yn aml dan y ddaear megis mewn ogofâu neu fwyngloddiau a gall fod yn anodd mynd atynt.
Felly, penderfynwyd hefyd y byddem yn cynnal arolygon o fannau clwydo’r gaeaf ym mis Chwefror 2013 a 2014 er mwyn cael gweld a oedd arwyddion bod ystlumod yn gaeafgysgu yn yr ogofâu yr oeddem yn gwybod amdanynt yn Waterford.
Astudiaeth o Aeafgysgu ymhlith Ystlumod
Aeth yr astudiaeth hon â ni i rai o fannau mwyaf diddorol ac iasol y sir, i archwilio ogofâuarhydalledydyffryncalchfaenrhwng Lismore a Dungarvan. Mae’r rhan fwyaf o’r ogofâu’n guddiedig mewn coedlannau bach ac ar ymyl caeau amaethyddol, ac roedd yn rhaid i ni geisio cael gwybod â pha dirfeddiannwr i gysylltu i gael caniatâd i gynnal yr arolwg. Wedi i ni ddatrys hynny a dod o hyd i’r ogofâu, aeth rhai â ni rai cannoedd o fetrau o dan y ddaear i geudyllau ac ynddynt stalactidau, ac yn rhai ohonynt roedd pyllau a oedd fel petaent yn ddiwaelod a llwybrau dan ddŵr. Gyda chymorth Henry Schofield o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent (VWT), un sydd â phrofiad helaeth o weithio gydag ystlumod yn y DU, gwelsom arwyddion fod ystlumod wedi bod mewn pum ogof, er ei bod yn anodd dweud i sicrwydd pa adeg o’r flwyddyn y gadawyd yr arwyddion, ac mae hynny’n tanlinellu pa mor anodd yw hi i adnabod yn bendant safleoedd gaeafgysgu. Ond cawsom well hwyl arni mewn twnnel rheilffordd segur lle gwelsom un ystlum Natterer yn gaeafgysgu mewn hollt yn y wal.
Yn yr eglwysi a’r ogofâu hyn, ynghyd â’r mannau eraill lle cawsom hyd i arwyddion o ystlumod, rydym hyd yma wedi dod o hyd i 71 o fannau clwydo, sy’n fwy o lawer na’r nifer a gofnodwyd o’r blaen yn Swydd Waterford.
Fe daflodd yr arolwg olau ar ddosbarthiad clwydfannau ystlumod yr haf, yn y sir, ond mae nifer o rywogaethau’n clwydo mewn mannau gwahanol dros y gaeaf.
23
Ystlumod

