Page 2 - MISE Project Report-Welsh
P. 2
Cyflwyniad
Mae’r prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MmAC) yn annog cymunedau i ymwneud â gwarchod mamaliaid, drwy gynnwys y cyhoedd mewn gwaith arolygu mamaliaid. Nod y prosiect oedd datblygu a chynnal ystod o weithdai a chyrsiau hyfforddi er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r mamaliaid sydd yn Iwerddon a Chymru, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o famaliaid yn yr amgylchedd drwy gynnwys gwirfoddolwyr mewn gwaith casglu samplau, a defnyddio technegau dadansoddi DNA i fonitro rhywogaethau mamaliaid allweddol gan ddefnyddio samplau a gasglwyd mewn modd nad oedd yn ymwthiol.
Caiff y prosiect MMAC ei gynnal ar y cyd gan Sefydliad Technoleg Waterford (y partner arweiniol), Cyngor Dinas a Sir Waterford a’r Ganolfan Genedlaethol Data Bioamrywiaeth yn Iwerddon, ac Ymddiriedolaeth Natur Vincent, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru. Caiff y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Rhaglen Iwerddon/Cymru (INTERREG 4A). Yn ystod y prosiect, aeth dau o’r partneriaid drwy brosesau uno sefydliadau. Daeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru, ac unodd Cyngor Sir Waterford â Chyngor Dinas Waterford i greu Cyngor Dinas a Sir Waterford.
Logo Ariannu a Phartneriaid
Yn y cyhoeddiad hwn, cewch gyfle i ddarllen am rywfaint o’r gwaith amrywiol y mae’r prosiect MMAC wedi bod yn ymwneud ag ef, sy’n cynnwys arolygon o ddyfrgwn, ymdrechion i warchod y wiwer goch a rheoli’r wiwer lwyd, arolygon o ystlumod ac arolygon o famaliaid bach. Drwy gydol y prosiect, rydym wedi ymgysylltu â miloedd o bobl drwy gyfrwng arolygon o fywyd gwyllt lleol, ymweliadau ag ysgolion a digwyddiadau cymunedol. Mae canlyniadau ein digwyddiadau wedi’u dosbarthu mewn sgyrsiau â chymunedau ac mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, gan sicrhau bod gwyddonwyr ac aelodau o gymunedau lleol yn dysgu am ein gwaith a’n canfyddiadau.
Wrth i’r prosiect hwn dynnu at ei derfyn bydd nifer o agweddau’n perthyn i waddol MMAC, a byddant yn cynnwys sefydlu ac adfywio grwpiau mamaliaid lleol, gwella cadwraeth, erenghraifftdrwyosodblychauystlumoda beleod, a chreu adnoddau addysgol. Bydd yr holl ddata o’n harolygon ar gael i’r cyhoedd mewn canolfannau cofnodion yn Iwerddon a Chymru a bydd awdurdodau cynllunio, ymchwilwyr ac unigolion sydd â diddordeb yn y gwaith yn gallu gweld y wybodaeth yn y canolfannau hynny. Yn olaf bydd gwersi, cyflawniadau a llwyddiannau’r prosiect MMAC yn cael eu defnyddio i’n helpu i greu ein prosiect cydweithredol nesaf a fydd, gobeithio, yn cychwyn yn y dyfodol agos.
2

